Information ¦ Gwybodaeth

Training
Initial training will be provided and will consist of 0.5 days training in the HER, an introduction to archaeological planning followed by a tour of the Trust’s offices.  Don’t worry if you are unable to make one of these days as additional training will be provided throughout your time with the Glamorgan-Gwent Archaeological Trust.

Hyfforddiant 

Darperir hyfforddiant cychwynnol, a bydd yn cynnwys hanner diwrnod o hyfforddiant ar Gofnodion Amgylcheddol Hanesyddol, cyflwyniad i gynllunio archeolegol, gyda thaith o amgylch swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth i ddilyn hynny.  Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gallu dod i un o’r diwrnodau hyn, gan y bydd hyfforddiant ychwanegol yn cael ei ddarparu drwy gydol yr amser y byddwch yn ei dreulio gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg - Gwent.
  
Availability
The project will be take place between Tuesday 3rd May 2016 to Friday 27th February 2017 (excluding weekends). It requires a commitment for at least 15 days, but you can volunteer for longer if you wish. If possible, you should identify more dates when you are available, in order to provide sufficient flexibility for us.   

E.g. 1 day a week for 15 weeks, 2-3 weeks in a month etc.

*We will try to accommodate your chosen dates but this will depend on the number of applicants.  If a large number of responses are received we may not be able to provide a place during this initial project period, however it is envisaged that the project will run beyond its preliminary period.

Argaeledd

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun 3ydd Mai 2016 a dydd Gwener 27ed Chwefror 2017 (ac eithrio penwythnosau).  Mae gofyn ymrwymo am o leiaf 10 diwrnod, ond gallwch wirfoddoli am gyfnod hirach pe baech chi’n dymuno gwneud hynny.  Pe bai’n bosibl, dylech nodi rhagor o ddyddiadau wrth nodi pa bryd rydych chi ar gael, er mwyn rhoi digon o hyblygrwydd i ni. 

e.e. 1 diwrnod yr wythnos am 15 wythnos, 2-3 wythnos mewn mis, ac ati.

*Fe wnawn ni geisio cadw at y dyddiadau a ddewiswyd gennych, ond bydd hyn yn dibynnu ar nifer yr ymgeiswyr.  Os bydd nifer fawr o ymatebion yn cyrraedd, efallai na fyddwn yn gallu cynnig lle yn ystod cyfnod cychwynnol y prosiect, ond er hynny, rhagwelir y bydd y prosiect yn cael ei gynnal y tu draw i’w gyfnod rhagarweiniol.

How to apply
For our records we need you to fill in the following forms which can be downloaded with other information from the Volunteer Pack on the right hand side of the page:
·        Application form
·        Emergency Contact form
·        Statement of Volunteer form

Please fill in, sign and return these forms either by email to her@ggat.org.uk or by post to HER, Glamorgan-Gwent Archaeological Trust, Heathfield House, Heathfield, Swansea, SA1 6EL.


Ar gyfer ein cofnodion, rydym angen i chi lenwi’r ffurflenni canlynol sydd wedi cael eu hanfon atoch chi gyda’r wybodaeth hon:
·        Ffurflen gais
·        Ffurflen cysylltiadau mewn argyfwng
·        Ffurflen datganiad gwirfoddoli

Llenwch, llofnodwch a dychwelwch y ffurflenni hyn drwy e-bost i her@ggat.org.uk neu drwy’r post i HER, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg - Gwent, Heathfield House, Heathfield, Abertawe, SA1 6EL.
 





No comments:

Post a Comment

Please contact us with any comments or queries: